Amdanom ni

Amdanom ni

Mae’r Tribiwnlys Cosbau Traffig (TPT) yn delio ag apeliadau yn ymwneud â chosbau wedi eu cyflwyno gan awdurdodau lleol ac awdurdodau gorfodi eraill yng Nghymru a Lloegr (tu allan i Lundain).

Rydym yn delio gyda chosbau wedi eu cyflwyno gan dros 300 o awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys tramgwyddau parcio, lôn bws, traffig symudol, Parthau Aer Glân, a taflu sbwriel o gerbyd.

Rydym hefyd yn delio â chosbau yn ymwneud â’r canlynol: y Croesfan Afon Dartford-Thurrock (‘Dart Charge’) cyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth; Croesfan Pont Afon Merswy (‘Merseyflow’) cyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Halton, a’r Tâl Atal Tagfeydd Durham (‘Durham RUC’) cyflwynwyd gan Gyngor Sir Durham.

Map showing coverage of England and Wales-where the Tribunal sees appeals from-and what type of appeals can be adjudicated

~35,000

achos y flwyddyn

Apeliadau o bob rhan o
Gymru a Lloegr ( tu allan i Lundain)

Apeliadau yn erbyn y cosbau canlynol:

Parcio, Lôn Bws, Traffig Symudol, Parthau Aer Glân, Taflu Sbwriel o Gerbyd a thaliadau yn ymwneud â defnyddio ffyrdd

Cyfreithwyr profiadol ac annibynnol

Rydym yn defnyddio Dyfarnwyr rhan amser i ddelio ag apeliadau. Maent yn gyfreithwyr annibynnol, wedi eu hapwyntio gan yr Arglwydd Ganghellor.

Mae ein staff gweinyddol yn cynorthwyo’r dyfarnwyr, ac yn cadw trefn ar ein system apeliadau. Maent hefyd yn rhoi cymorth i unrhyw un sydd eisiau gwneud apêl. Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at y staff gweinyddol a’r dyfarnwyr gyda’i gilydd fel y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Icon showing Civil Enforcement Officer representing an authority that has issued a Penalty Charge Notice

Awdurdod

Icon of Justice Scales in blue and white with Traffic Penalty Tribunal Logo on top

Mae’r Tribiwnlys yn annibynnol sy’n sicrhau fod ein penderfyniadau yn deg

Icon of appellant ready to start an appeal

Apelydd

Cyfreithwyr profiadol ac annibynnol

Rydym yn defnyddio Dyfarnwyr rhan amser i ddelio ag apeliadau. Maent yn gyfreithwyr annibynnol, wedi eu hapwyntio gan yr Arglwydd Ganghellor.

Mae ein staff gweinyddol yn cynorthwyo’r dyfarnwyr, ac yn cadw trefn ar ein system apeliadau. Maent hefyd yn rhoi cymorth i unrhyw un sydd eisiau gwneud apêl. Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at y staff gweinyddol a’r dyfarnwyr gyda’i gilydd fel y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Icon showing Civil Enforcement Officer representing an authority that has issued a Penalty Charge Notice

Awdurdod

Icon of Justice Scales in blue and white with Traffic Penalty Tribunal Logo on top
Icon of appellant ready to start an appeal

Apelydd

Mae’r Tribiwnlys yn annibynnol sy’n sicrhau fod ein penderfyniadau yn deg.

Photograph of Caroline Hamilton the Chief Adjudicator of the Traffic Penalty Tribunal with a circular frame and white border

Caroline Hamilton

Prif Ddyfarnwr

Mae Caroline Hamilton wedi bod yn Brif Ddyfarnwr y TPT ers mis Gorffennaf 2022. Yn fargyfreithiwr a alwyd ym 1989, ymunodd Hamilton â’r TPT o Dribiwnlysoedd Llundain, lle bu’n Brif Ddyfarnwr yr Amgylchedd a Thraffig ers 2010.

Gwasanaeth digidol gyda chymorth wrth law!

Erbyn hyn, nid oes angen aros am amser maith am benderfyniad, na delio â gwaith papur diddiwedd.

Mae’r Tribiwnlys wedi datblygu system ar-lein sy’n rhwydd i’w ddefnyddio er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu apelio. Mae’r gwasanaeth yn gwbl ddigidol, ac mae’r Tribiwnlys wedi eu gwobrwyo am eu gwaith trawsnewidiol yn y maes yma.

Mae defnyddio system ddigidol yn galluogi’r Tribiwnlys i ddelio ag apeliadau yn effeithiol, heb wastraffu amser ac arian.

90%

o apeliadau wedi
eu cwblhau yn
gwbl ar-lein

>75%

o apeliadau wedi
eu penderfynu mewn
llai na mis

Image showing female Customer Support Representative

Drwy ddefnyddio system ddigidol effeithiol rydym yn sicrhau fod gan ein staff gweinyddol amser i ddelio â phawb sydd angen cymorth i wneud apêl.

Mae’n staff yn helpu rhai sydd eisiau defnyddio’r system ar-lein ei hunain, neu yn gallu cwblhau apêl ar eu rhan. Maent hefyd yn hapus i gyfathrebu â chi mewn ffyrdd mwy traddodiadol. Er ein bod yn defnyddio technoleg, rydym eisiau sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth personol o’r safon uchaf.

Gwasanaeth digidol gyda chymorth wrth law!

Erbyn hyn, nid oes angen aros am amser maith am benderfyniad, na delio â gwaith papur diddiwedd.

Mae’r Tribiwnlys wedi datblygu system ar-lein sy’n rhwydd i’w ddefnyddio er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu apelio. Mae’r gwasanaeth yn gwbl ddigidol, ac mae’r Tribiwnlys wedi eu gwobrwyo am eu gwaith trawsnewidiol yn y maes yma.

Mae defnyddio system ddigidol yn galluogi’r Tribiwnlys i ddelio ag apeliadau yn effeithiol, heb wastraffu amser ac arian.

90%

o apeliadau wedi
eu cwblhau yn gwbl ar-lein

75%

o apeliadau wedi
eu penderfynu mewn llai na mis

Image showing female Customer Support Representative

Drwy ddefnyddio system ddigidol effeithiol rydym yn sicrhau fod gan ein staff gweinyddol amser i ddelio â phawb sydd angen cymorth i wneud apêl.

Mae’n staff yn helpu rhai sydd eisiau defnyddio’r system ar-lein ei hunain, neu yn gallu cwblhau apêl ar eu rhan. Maent hefyd yn hapus i gyfathrebu â chi mewn ffyrdd mwy traddodiadol. Er ein bod yn defnyddio technoleg, rydym eisiau sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth personol o’r safon uchaf.

Ariannu a deddfwriaeth

Mae’r Tribiwnlys wedi ei ariannu gan Gydbwyllgor o fwy na 300 o awdurdodau lleol ac awdurdodau gorfodi eraill yng Nghymru a Lloegr (tu allan i Lundain). Enw’r Cydbwyllgor yw:

Patrol Logo

Parking and Traffic Regulations
outside London (PATROL).

Mae aelodau PATROL yn cyflawni eu dyletswyddau statudol drwy sicrhau fod corff annibynnol ar gael i ddelio ag apeliadau yn erbyn cosbau sifil. Mae deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol yn bodoli sy’n ymwneud â’r broses apêl.