Gwybodaeth am apelio

Gwybodaeth am apelio

Nid yw derbyn Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) yn brofiad pleserus ac mae’n bwysig gwybod sut i ddelio â’r mater. Ambell waith, mae’n rhaid derbyn eich bod wedi gwneud camgymeriad. Os felly, dylech dalu’r gosb a symud ymlaen.

Ond efallai eich bod o’r farn fod y gosb yn annheg oherwydd bod amgylchiadau arbennig yn bodoli, neu nid oedd hi’n bosib osgoi’r gosb oherwydd ffactorau tu hwnt i’ch rheolaeth.

Beth bynnag yw’r rheswm…

Os nad ydych chi’n cytuno â’r HTC, mae’n rhaid anfon eich sylwadau yn gyntaf i’r awdurdod a gyflwynodd yr HTC

Nid yw’n bosib gwneud apêl drwy’r Tribiwnlys Cosbau Traffig oni bai eich bod wedi anfon sylwadau i’r awdurdod yn gyntaf, a bod yr awdurdod wedi eu gwrthod. Fe ddylai’r awdurdod anfon llythyr Hysbysiad Gwrthod (HG) atoch chi.

Mae’r camau sydd angen ei dilyn yn dibynnu ar y math o HTC yr ydych wedi ei dderbyn.

Rydym yn delio gyda’r cosbau canlynol

Cliciwch un o’r botymau isod am fwy o wybodaeth am y camau nesaf ar ôl derbyn Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

Parcio

Parcio

Lôn Bws neu Draffig Symudol

Lôn Bws / Traffig Symudol

Clean Air Zones

Parthau Aer Glân

Mae’r Tribiwnlys hefyd yn penderfynu ar apeliadau yn erbyn Rhybuddion Talu Cosb a gyhoeddir o’r
Tâl Atal Tagfeydd Durham (‘Durham Road User Charge Zone’).

Mae’r Tribiwnlys hefyd yn penderfynu ar apeliadau yn erbyn Rhybuddion Talu Cosb a gyhoeddir o’r Tâl Atal Tagfeydd Durham (‘Durham Road User Charge Zone’).

Pwy sy’n gyfrifol am yr HTC?

Icon of a vehicle key indicating ownership of the vehicle

Mae’r gyfraith sy’n delio gyda thramgwyddau traffig yn dweud mai perchennog y cerbyd sy’n gyfrifol am dalu’r HTC. Tybir mai’r ceidwad cofrestredig yw’r perchennog, oni phrofir yn wahanol.

Efallai nad y ceidwad cofrestredig (sef y person sydd wedi ei gofrestru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau) oedd gyrrwr y cerbyd pan gyflwynwyd yr HTC. Er hynny, y ceidwad cofrestredig sy’n gyfrifol am yr HTC. Nid yw’r ffaith fod rhywun arall yn gyrru’r cerbyd yn newid y ffaith mai cyfrifoldeb y ceidwad cofrestredig yw’r HTC.

Nid yw’r HTC rwyf wedi ei dderbyn ar eich rhestr

Mae’r Tribiwnlys Cosbau Traffig yn delio ag apeliadau yn erbyn awdurdodau lleol, ac awdurdodau gorfodi eraill yng Nghymru a Lloegr (tu allan i Lundain).

Os ydych chi wedi derbyn HTC gan un o’r awdurdodau isod, cliciwch ar y tabiau am fwy o fanylion cyswllt.

I apelio yn erbyn HTC parcio, lôn bws, traffig symudol neu atal tagfeydd cysylltwch â:

Head of Support Services, London Tribunals
PO Box 10598, Nottingham, NG6 6DR

Ffôn: 020 7520 7200

E-bost: queries@londontribunals.org.uk

I apelio yn erbyn HTC parcio neu lôn bws yn yr Alban cysylltwch â:

Parking and Bus Lane Tribunal for Scotland (PBLTS)
George House, 126 George Street, Edinburgh, EH2 4HH

Ffôn: 0330 123 5581

E-bost: info@appealparkingorbuslanefine.gov.scot

I apelio yn erbyn HTC parcio neu lôn bws yng Ngogledd Iwerddon cysylltwch â:

Northern Ireland Traffic Penalty Tribunal (NITPT)
2nd Floor, Royal Courts of Justice, Chichester Street, Belfast BT1 3JF

Ffôn: 0300 200 7812

E-bost: TribunalsUnit@courtsni.gov.uk

Mae Hysbysiad Cosb Parcio (HCP) yn aml yn edrych yn debyg i Hysbysiad Tâl Cosb (HTC), ond nid ydynt yr un peth. Mae HCP wedi ei gyflwyno gan gwmni parcio preifat, ac nid gan awdurdod lleol.

I dalu neu herio’r gosb, cysylltwch â’r cwmni sydd wedi ei gyflwyno. Fe ddylai fod eu manylion wedi’u nodi yn y dogfennau yr ydych wedi ei dderbyn.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y British Parking Association.

Fe ddylai’r HCP gynnwys manylion y gwasanaeth apêl gellir ei ddefnyddio os na fydd y cwmni preifat yn derbyn eich sylwadau. Dyma rai o’r gwasanaethau apêl sy’n bodoli:

Mae’n bosib derbyn cosbau o’r math uchod gan yr heddlu neu gan awdurdod lleol. Cysylltwch â’r awdurdod sydd wedi cyflwyno’r gosb, gan ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau yn y dogfennau yr ydych wedi eu derbyn.

Am fwy o wybodaeth am Rhybudd Cosb Penodedig (neu Rhybudd Bwriadu Erlyn) am oryrru, cliciwch y botwm isod.

E-bost: info@appealparkingorbus
lanefine.gov.scot

Mwy o wybodaeth am apelio i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig

Mae gwneud apêl yn rhwydd a chyflym.Er bod pob achos yn wahanol, rydym yn delio â llawer o apeliadau oddi fewn 14 diwrnod. Rydym yn delio â rhai oddi fewn 24 awr.

Rydym yn defnyddio dyfarnwyr profiadol ac annibynnol sy’n ystyried ffeithiau penodol eich achos er mwyn sicrhau penderfyniadau teg. Mae’n bosib delio â phob agwedd o’ch apêl ar-lein drwy ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar.

Examples of evidence photos, letters, blue badge, social media conversation, parking ticket and vehicle documents

Llanlwytho tystiolaeth

Mae’n bosib llanlwytho pob math o dystiolaeth i’r system ar-lein, gan gynnwys lluniau, fideos, sgrinluniau, dogfennau a gwybodaeth fanwl.

Siaradwch â ni yn ystod eich apêl

Mae system ‘sgwrs fyw’ ar gael yn ogystal â system negeseuon i ofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth am eich achos.

Phone showing Live Chat conversation, next to a chat icon and envelope icon showing email

Icons depicting option between having a Telephone or Video Hearing with an Adjudicator or receiving a decision fully online

Opsiwn i ddewis dyfarniad ar-lein neu wrandawiad gyda’r dyfarnwr

Trafodwch eich apêl yn fanwl dros y ffôn neu drwy wrandawiad fideo. Mae’n bosib hefyd gofyn am ddyfarniad ar-lein, heb wrandawiad. Mi fydd y dyfarnwr yn sicrhau fod eglurhad clir ar gael dros ganiatáu neu wrthod eich apêl.

Eisiau mwy o wybodaeth?

Eisiau mwy o wybodaeth?