Gwneud Apêl

Gwneud Apêl

Mae apelio drwy’r Tribiwnlys Cosbau Traffig yn broses rhwydd a chyflym. Efallai na fyddwch yn ennill eich apêl bob tro, ond fe fyddwch yn deall y rhesymau pam fod apêl wedi ei wrthod.

Rydym yn cynnig gwasanaeth apêl ar-lein. Mae’n bosib defnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar i gofrestru eich achos, egluro’r amgylchiadau a llanlwytho tystiolaeth. Mae’n bosib hefyd cadw mewn cysylltiad â’r dyfarnwr sy’n delio gyda’r achos, a’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid.

Barod i ddechrau eich apêl?

Graphic showing Notice of Rejection of Representations and appeal information

Erbyn hyn, fe ddylech fod wedi derbyn llythyr

Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (HG)

gan yr awdurdod a gyflwynodd yr Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

Nodir fod rhai awdurdodau yn galw’r llythyr hwn yn ‘Rhybudd Gwrthod Sylwadau’ sydd a’r un effaith â Hysbysiad Gwrthod Sylwadau.

Mae’n rhaid cael llythyr HG cyn defnyddio gwasanaeth apêl y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Nid yw’n bosib i’r Tribiwnlys dderbyn apêl heb y wybodaeth sydd wedi ei gynnwys mewn llythyr HG.

Fel arfer, anfonir y llythyr HG i geidwad cofrestredig y cerbyd ar ôl i’r awdurdod dderbyn sylwadau yn erbyn yr HTC, a’u gwrthod.

Mae’n rhaid gwneud apêl oddi fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn llythyr HG.

Pwysig:
Os na fydd eich apêl yn llwyddianus bydd rhaid talu’r gosb yn llawn

Cwestiynau?

Notice of Rejection of Representations

Mae’r llythyr yn cynnwys ‘Dyddiad Hysbysiad Gwrthod’ a hefyd ‘Côd PIN’.

Yn aml*, mae’r awdurdodau yn rhoi’r wybodaeth yma mewn bocs penodol gyda logo’r Tribiwnlys ynddo (gweler yr esiampl uchod), ac yn cynnwys gwybodaeth am sut i apelio.

Mae angen Côd PIN er mwyn dechrau apêl. Os nad yw’r llythyr HG yn cynnwys Côd PIN, cysylltwch â ni.

*nid yw llythyrau HG Dart Charge neu Merseyflow yn cynnwys y manylion uchod mewn bocs penodol.

Mae’r llythyr HG yn cynnwys y manylion canlynol, ac mae’n rhaid i’r wybodaeth yma fod ar gael i ddechrau apêl ar-lein:

Côd PIN

Rhif cofrestru’r cerbyd

Rhif/au’r HTC

Mae angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi hefyd.

Peidiwch â chysylltu â’r Tribiwnlys os nad ydych chi wedi derbyn HG. Cysylltwch â’r awdurdod os nad ydych chi wedi derbyn ymateb i’ch sylwadau ddau fis ar ôl eu hanfon.

Os ydych chi wedi derbyn Tystysgrif Codi Tâl, Gorchymyn Adennill neu lythyr gan feili, efallai eich bod yn rhy hwyr i wneud apêl.

I wneud apêl mae angen nodi’r cod PIN, rhif cofrestru’r cerbyd a rhif/au’r HTC yr ydych yn apelio yn eu herbyn. Mae angen cyfeiriad e-bost dilys hefyd.

Eglurhad a thystiolaeth

Mae’n rhaid egluro pam eich bod yn apelio. Mae’n bosib llanlwytho gwahanol fathau o dystiolaeth gan gynnwys lluniau, dogfennau, negeseuon oddi ar eich ffôn clyfar, neu oddi ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Os nad yw’r dystiolaeth ar gael pan rydych chi’n dechrau’r apêl, mae’n bosib llanlwytho tystiolaeth ychwanegol nes ymlaen yn y broses.

Ydi’n bosib apelio mwy nag un HTC?

Mae’n bosib defnyddio’r linc ‘ychwanegu apêl arall’ ar y sgrin cofrestru os yw’r HTC ychwanegol wedi ei gyflwyno gan yr un awdurdod, ac yn delio gyda’r un cerbyd, ac mae llythyr/au HG ar gael.

Peidiwch â chreu achos newydd am bob HTC yr ydych wedi ei dderbyn oni bai eich bod yn delio â gwahanol gerbydau neu awdurdodau.

Rydym yn delio gyda mwy na 95% o’n hapeliadau ar-lein.

Rydym yn hyderus fod y system yn syml i’w ddefnyddio, ac yn eich annog i roi cynnig arni. Ond nid yw pawb eisiau apelio ar-lein am amryw o resymau.

Mae staff y Tribiwnlys ar gael i roi help llaw i unrhyw un sydd angen cymorth i wneud apêl ar-lein. Rydym hefyd yn gallu cwblhau apêl ar-lein ar eich rhan, gan ddefnyddio gwybodaeth yr ydym wedi ei dderbyn drwy’r post neu dros y ffôn.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ynglŷn â’r broses o apelio, neu ynglŷn â defnyddio’r Tribiwnlys.

Os ydych chi eisiau siarad gyda rhywun,
cysylltwch â’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid gan ddefnyddio’r manylion isod. Rydym yn barod iawn i helpu.

Telephone

Ffôn: 0800 160 1999

Mae pob galwad yn cael ei recordio er budd ansawdd a hyfforddiant.

Live Chat

Sgwrs fyw:

Cliciwch y botwm yng nghornel dde o’r sgrin

* Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd am wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn prosesu eich data.

Dechrau eich apêl

Cliciwch y botwm isod i wneud apêl drwy system ar-lein y Tribiwnlys.