Blue 'P' Symbol Parking Sign for Wales

Parcio (Cymru)

Apelio Yn Erbyn Htc Parcio – Cymru

Blue 'P' Symbol Parking Sign for Wales

Parcio (Cymru)

Apelio Yn Erbyn Htc Parcio – Cymru

Mae gwybodaeth yma am beth i’w wneud ar ôl derbyn
Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) Parcio
gan awdurdod lleol yng Nghymru,
gan gynnwys sut i dalu a sut i apelio.

 

Peidiwch ag anwybyddu’r HTC!

Mae’n bosib i’r gosb gynyddu ac i’r awdurdod ei chofrestru fel dyled a rhoi’r mater yn nwylo’r beilïaid.

Mae gwybodaeth yma am
beth i’w wneud ar ôl derbyn
Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) Parcio
gan awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys sut i dalu a sut i apelio.

 

Peidiwch ag anwybyddu’r HTC!

Mae’n bosib i’r gosb gynyddu ac i’r awdurdod ei chofrestru fel dyled a rhoi’r mater yn nwylo’r beilïaid.

Opsiynau ar ôl derbyn HTC

Nid yw’n bosib apelio i’r
Tribiwnlys Cosbau Traffig
yn syth

Mae’n rhaid i chi herio’r HTC
gyda’r awdurdod yn gyntaf.

Opsiynau ar ôl derbyn HTC

Nid yw’n bosib apelio i’r
Tribiwnlys Cosbau Traffig
yn syth

Mae’n rhaid i chi herio’r HTC gyda’r awdurdod yn gyntaf.

HTC am
£50 neu £70

(yn dibynnu ar y
math o dramgwydd)

Graphic showing a Welsh Parking Penalty Charge Notice as would appear attached to a windscreen

HTC ar sgrin y cerbyd
neu wedi ei roi i’r gyrrwr

NEU

Graphic showing a Welsh Parking Penalty Charge Notice as would appear when sent through the post

Wedi ei anfon drwy’r post i Geidwad Cofrestredig
y cerbyd

White arrow pointing downwards

TALU

Os nad ydych chi am herio’r HTC,
dylid talu’r
gosb ostyngedig
(50%) i’r
awdurdod
oddi fewn 14 diwrnod

NEU

HERIO

Anfon Her Anffurfiol

Os nad ydych chi’n cytuno gyda’r HTC, mae’n bosib ei herio drwy anfon Sylwadau Anffurfiol yn ei erbyn i’r awdurdod a gyflwynodd yr HTC

Anfonwch eich sylwadau i’r awdurdod mor fuan â phosib (oddi fewn 28 diwrnod o ddyddiad sydd yr HTC)*

* Fel arfer, os ydych chi’n anfon eich sylwadau oddi fewn 14 diwrnod o ddyddiad yr HTC, mae rhan fwyaf o awdurdodau yn barod i gadw’r gosb ar y lefel ostyngedig (50%)

White arrow pointing downwards

Derbyn Sylwadau

Mae’r awdurdod yn canslo’r HTC.

Nid oes angen talu

Gwrthod Sylwadau

Mae’r gosb yn daladwy

(fel arfer ar y lefel ostyngedig o 50%
os ydych chi wedi anfon
sylwadau oddi fewn 14 diwrnod)

White arrow pointing downwards
Graphic showing a Welsh Notice to Owner document

Os yw’r awdurdod yn gwrthod eich sylwadau ac nid ydych chi’n talu’r HTC
NEU
Os nad yw’r HTC wedi ei dalu na’i herio o gwbl oddi fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr HTC, bydd yr awdurdod yn anfon

Hysbysiad i’r Perchennog (HIP) ac yn gofyn i chi dalu’r gosb yn llawn

Os anfonwyd HTC drwy’r post ni fydd yr awdurdod yn anfon HIP hefyd– dylech ddilyn y cyfarwyddiadau ar yr HTC ynglŷn â sut i herio drwy anfon sylwadau i’r awdurdod (gweler y camau nesaf isod)

White arrow pointing downwards

TALU

Talwch y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod heb oedi

NEU

HERIO

Anfon Her Ffurfiol

Os nad ydych chi’n cytuno gyda’r HTC mae’n bosib ei herio drwy anfon sylwadau ffurfiol yn ei erbyn i’r awdurdod

Anfonwch eich sylwadau i’r awdurdod mor fuan â phosib (oddi fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr HIP neu 28 diwrnod o ddyddiad yr HTC os anfonwyd drwy’r post).

White arrow pointing downwards

Derbyn Sylwadau

Mae’r awdurdod yn canslo’r HTC ac nid oes angen talu

Gwrthod Sylwadau

Mae’r awdurdod yn anfon Hysbysiad Gwrthod Sylwadau.

Mae’r gosb lawn yn daladwy

White arrow pointing downwards
Traffic Penalty Tribunal Logo in White

Talu neu apelio?

Graphic showing a Welsh Notice of Rejection of Representations and appeal information

Os na fydd yr awdurdod yn derbyn eich sylwadau anfonir llythyr

Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (HG)

Mae’n bosib i hyn gymryd 56 diwrnod.

Wedi cyrraedd y pwynt yma mae’n rhaid talu’r
HTC neu apelio i’r Tribiwnlys oddi fewn 28 diwrnod

I apelio’n llwyddiannus mae’n rhaid i
seiliau/rhesymau penodol fodoli.

Dylid ystyried y seiliau apêl yn ofalus
cyn penderfynu os ydych chi am apelio neu dalu’r gosb.

Pwysig: Os na fydd eich apêl yn llwyddiannus bydd rhaid talu’r gosb yn llawn.

Traffic Penalty Tribunal Logo in White

Talu neu apelio?

Os na fydd yr awdurdod yn derbyn eich sylwadau anfonir llythyr

Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (HG)

Mae’n bosib i hyn gymryd 56 diwrnod.

Graphic showing Notice of Rejection of Representations and appeal information

Wedi cyrraedd y pwynt yma mae’n rhaid talu’r HTC neu apelio i’r Tribiwnlys oddi fewn 28 diwrnod

I apelio’n llwyddiannus mae’n rhaid i seiliau/rhesymau penodol fodoli.

Dylid ystyried y seiliau apêl yn ofalus cyn penderfynu os ydych chi am apelio neu dalu’r gosb.

Pwysig: Os na fydd eich apêl yn llwyddiannus bydd rhaid talu’r gosb yn llawn.

Rhy hwyr?
Tystysgrifau Codi Tâl a Gorchmynion Adennill

Os ydych chi wedi derbyn Tystysgrif Codi Tâl, Gorchymyn Adennill neu lythyr gan Feili (Asiant Gorfodi Sifil) ynglŷn â HTC sydd heb ei dalu, nid yw’n bosib anfon sylwadau i’r awdurdod.

Erbyn hyn, mae’r awdurdod wedi cymryd camau pellach i sicrhau fod yr HTC yn cael ei dalu. Efallai fydd hi’n bosib gwneud apêl i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig, os ydych chi wedi derbyn llythyr Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (HG).

Rhy hwyr?
Tystysgrifau Codi Tâl a Gorchmynion Adennill

Os ydych chi wedi derbyn Tystysgrif Codi Tâl, Gorchymyn Adennill neu lythyr gan Feili (Asiant Gorfodi Sifil) ynglŷn â HTC sydd heb ei dalu, nid yw’n bosib anfon sylwadau i’r awdurdod.

Erbyn hyn, mae’r awdurdod wedi cymryd camau pellach i sicrhau fod yr HTC yn cael ei dalu. Efallai fydd hi’n bosib gwneud apêl i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig, os ydych chi wedi derbyn llythyr Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (HG).