Parcio (Cymru)
Apelio Yn Erbyn Htc Parcio – Cymru

Parcio (Cymru)
Apelio Yn Erbyn Htc Parcio – Cymru
Mae gwybodaeth yma am beth i’w wneud ar ôl derbyn
Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) Parcio
gan awdurdod lleol yng Nghymru,
gan gynnwys sut i dalu a sut i apelio.
Peidiwch ag anwybyddu’r HTC!
Mae’n bosib i’r gosb gynyddu ac i’r awdurdod ei chofrestru fel dyled a rhoi’r mater yn nwylo’r beilïaid.
Mae gwybodaeth yma am
beth i’w wneud ar ôl derbyn
Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) Parcio
gan awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys sut i dalu a sut i apelio.
Peidiwch ag anwybyddu’r HTC!
Mae’n bosib i’r gosb gynyddu ac i’r awdurdod ei chofrestru fel dyled a rhoi’r mater yn nwylo’r beilïaid.
Opsiynau ar ôl derbyn HTC
Nid yw’n bosib apelio i’r
Tribiwnlys Cosbau Traffig
yn syth
Mae’n rhaid i chi herio’r HTC
gyda’r awdurdod yn gyntaf.
Opsiynau ar ôl derbyn HTC
Nid yw’n bosib apelio i’r
Tribiwnlys Cosbau Traffig
yn syth
Mae’n rhaid i chi herio’r HTC gyda’r awdurdod yn gyntaf.
HTC am
£50 neu £70
(yn dibynnu ar y
math o dramgwydd)

HTC ar sgrin y cerbyd
neu wedi ei roi i’r gyrrwr
NEU

Wedi ei anfon drwy’r post i Geidwad Cofrestredig
y cerbyd

TALU
Os nad ydych chi am herio’r HTC,
dylid talu’r
gosb ostyngedig
(50%) i’r
awdurdod
oddi fewn 14 diwrnod
NEU

Os yw’r awdurdod yn gwrthod eich sylwadau ac nid ydych chi’n talu’r HTC
NEU
Os nad yw’r HTC wedi ei dalu na’i herio o gwbl oddi fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr HTC, bydd yr awdurdod yn anfon
Hysbysiad i’r Perchennog (HIP) ac yn gofyn i chi dalu’r gosb yn llawn
Os anfonwyd HTC drwy’r post ni fydd yr awdurdod yn anfon HIP hefyd– dylech ddilyn y cyfarwyddiadau ar yr HTC ynglŷn â sut i herio drwy anfon sylwadau i’r awdurdod (gweler y camau nesaf isod)

TALU
Talwch y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod heb oedi
NEU

Talu neu apelio?

Os na fydd yr awdurdod yn derbyn eich sylwadau anfonir llythyr
Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (HG)
Mae’n bosib i hyn gymryd 56 diwrnod.
Wedi cyrraedd y pwynt yma mae’n rhaid talu’r
HTC neu apelio i’r Tribiwnlys oddi fewn 28 diwrnod
I apelio’n llwyddiannus mae’n rhaid i
seiliau/rhesymau penodol fodoli.
Dylid ystyried y seiliau apêl yn ofalus
cyn penderfynu os ydych chi am apelio neu dalu’r gosb.
Pwysig: Os na fydd eich apêl yn llwyddiannus bydd rhaid talu’r gosb yn llawn.

Talu neu apelio?
Os na fydd yr awdurdod yn derbyn eich sylwadau anfonir llythyr
Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (HG)
Mae’n bosib i hyn gymryd 56 diwrnod.
Wedi cyrraedd y pwynt yma mae’n rhaid talu’r HTC neu apelio i’r Tribiwnlys oddi fewn 28 diwrnod
I apelio’n llwyddiannus mae’n rhaid i seiliau/rhesymau penodol fodoli.
Dylid ystyried y seiliau apêl yn ofalus cyn penderfynu os ydych chi am apelio neu dalu’r gosb.
Pwysig: Os na fydd eich apêl yn llwyddiannus bydd rhaid talu’r gosb yn llawn.
Rhy hwyr?
Tystysgrifau Codi Tâl a Gorchmynion Adennill
Os ydych chi wedi derbyn Tystysgrif Codi Tâl, Gorchymyn Adennill neu lythyr gan Feili (Asiant Gorfodi Sifil) ynglŷn â HTC sydd heb ei dalu, nid yw’n bosib anfon sylwadau i’r awdurdod.
Erbyn hyn, mae’r awdurdod wedi cymryd camau pellach i sicrhau fod yr HTC yn cael ei dalu. Efallai fydd hi’n bosib gwneud apêl i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig, os ydych chi wedi derbyn llythyr Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (HG).

© 2022 Tribiwnlys Cosbau Traffig
© 2022 Tribiwnlys Cosbau Traffig