Gwybodaeth am apelio
Gwybodaeth am apelio
Nid yw derbyn Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) yn brofiad pleserus ac mae’n bwysig gwybod sut i ddelio â’r mater. Ambell waith, mae’n rhaid derbyn eich bod wedi gwneud camgymeriad. Os felly, dylech dalu’r gosb a symud ymlaen.
Ond efallai eich bod o’r farn fod y gosb yn annheg oherwydd bod amgylchiadau arbennig yn bodoli, neu nid oedd hi’n bosib osgoi’r gosb oherwydd ffactorau tu hwnt i’ch rheolaeth.
Beth bynnag yw’r rheswm…
Os nad ydych chi’n cytuno â’r HTC, mae’n rhaid anfon eich sylwadau yn gyntaf i’r awdurdod a gyflwynodd yr HTC
Nid yw’n bosib gwneud apêl drwy’r Tribiwnlys Cosbau Traffig oni bai eich bod wedi anfon sylwadau i’r awdurdod yn gyntaf, a bod yr awdurdod wedi eu gwrthod. Fe ddylai’r awdurdod anfon llythyr Hysbysiad Gwrthod (HG) atoch chi.
Mae’r camau sydd angen ei dilyn yn dibynnu ar y math o HTC yr ydych wedi ei dderbyn.

Rydym yn delio gyda’r cosbau canlynol
Cliciwch un o’r botymau isod am fwy o wybodaeth am y camau nesaf ar ôl derbyn Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

Mae’r Tribiwnlys hefyd yn penderfynu ar apeliadau yn erbyn Rhybuddion Talu Cosb a gyhoeddir o’r
Tâl Atal Tagfeydd Durham (‘Durham Road User Charge Zone’).
Mae’r Tribiwnlys hefyd yn penderfynu ar apeliadau yn erbyn Rhybuddion Talu Cosb a gyhoeddir o’r Tâl Atal Tagfeydd Durham (‘Durham Road User Charge Zone’).
Pwy sy’n gyfrifol am yr HTC?

Mae’r gyfraith sy’n delio gyda thramgwyddau traffig yn dweud mai perchennog y cerbyd sy’n gyfrifol am dalu’r HTC. Tybir mai’r ceidwad cofrestredig yw’r perchennog, oni phrofir yn wahanol.
Efallai nad y ceidwad cofrestredig (sef y person sydd wedi ei gofrestru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau) oedd gyrrwr y cerbyd pan gyflwynwyd yr HTC. Er hynny, y ceidwad cofrestredig sy’n gyfrifol am yr HTC. Nid yw’r ffaith fod rhywun arall yn gyrru’r cerbyd yn newid y ffaith mai cyfrifoldeb y ceidwad cofrestredig yw’r HTC.

Nid yw’r HTC rwyf wedi ei dderbyn ar eich rhestr
Mae’r Tribiwnlys Cosbau Traffig yn delio ag apeliadau yn erbyn awdurdodau lleol, ac awdurdodau gorfodi eraill yng Nghymru a Lloegr (tu allan i Lundain).
Os ydych chi wedi derbyn HTC gan un o’r awdurdodau isod, cliciwch ar y tabiau am fwy o fanylion cyswllt.

Mwy o wybodaeth am apelio i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig
Mae gwneud apêl yn rhwydd a chyflym.Er bod pob achos yn wahanol, rydym yn delio â llawer o apeliadau oddi fewn 14 diwrnod. Rydym yn delio â rhai oddi fewn 24 awr.
Rydym yn defnyddio dyfarnwyr profiadol ac annibynnol sy’n ystyried ffeithiau penodol eich achos er mwyn sicrhau penderfyniadau teg. Mae’n bosib delio â phob agwedd o’ch apêl ar-lein drwy ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar.

Llanlwytho tystiolaeth
Mae’n bosib llanlwytho pob math o dystiolaeth i’r system ar-lein, gan gynnwys lluniau, fideos, sgrinluniau, dogfennau a gwybodaeth fanwl.

Siaradwch â ni yn ystod eich apêl
Mae system ‘sgwrs fyw’ ar gael yn ogystal â system negeseuon i ofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth am eich achos.

Opsiwn i ddewis dyfarniad ar-lein neu wrandawiad gyda’r dyfarnwr
Trafodwch eich apêl yn fanwl dros y ffôn neu drwy wrandawiad fideo. Mae’n bosib hefyd gofyn am ddyfarniad ar-lein, heb wrandawiad. Mi fydd y dyfarnwr yn sicrhau fod eglurhad clir ar gael dros ganiatáu neu wrthod eich apêl.

© 2022 Tribiwnlys Cosbau Traffig
© 2022 Tribiwnlys Cosbau Traffig