Tystysgrifau Codi Tâl a
Gorchmynion Adennill
Tystysgrifau Codi Tâl a Gorchmynion Adennill
Os yw’r Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) heb ei dalu, neu wedi ei anwybyddu, mae gan yr awdurdod hawl i gynyddu’r gosb a chofrestru’r swm sydd heb ei dalu fel dyled.
Byddwch yn derbyn Tystysgrif Codi Tâl…

28 diwrnod ar ôlderbyn Hysbysiad i’r Perchennog (achosion HTC parcio yn unig) neu HTC drwy’r post, os na fydd yr HTC wedi ei dalu neu sylwadau wedi eu hanfon i’r awdurdod
NEU

28 diwrnod ar ôl derbyn llythyr Hysbysiad Gwrthod Sylwadau (ar ôl anfon sylwadau i’r awdurdod a gyflwynodd yr HTC), os na fydd yr HTC wedi ei dalu nac apêl wedi ei wneud i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig
NEU

28 diwrnod ar ôl derbyn penderfyniad gan y Tribiwnlys Cosbau Traffig yn gwrthod eich apêl, os na fydd yr HTC wedi ei dalu
Mae Tystysgrif Codi Tâl yn cynyddu’r gosb 50%, ac nid oes hawl bellach i anfon sylwadau i’r awdurdod ynglŷn â’r HTC.*
*Mae’n bosib i rai awdurdodau dderbyn sylwadau er eu bod wedi cyflwyno Tystysgrif Codi Tâl, ond mater o ddisgresiwn yw hyn i’r awdurdod a gyflwynodd yr HTC
Ar ôl derbyn Tystysgrif Codi Tâl mae’n rhaid talu’r HTC oddi fewn 14 diwrnod.
Pwysig: Dan rai amgylchiadau, mae’n bosib i’r dyfarnwr ystyried apêl sy’n hwyr os oes rheswm da yn bodoli am beidio ag apelio oddi fewn 28 diwrnod (e.e. anfonwyd sylwadau i’r awdurdod ond ni dderbyniwyd llythyr Hysbysiad Gwrthod). Os oes amgylchiadau o’r math hyn yn bodoli, gwnewch apêl nawrac eglurwch pam fod eich apêl yn hwyr.
Os na thelir yr HTC oddi fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn Tystysgrif Codi Tâl, mae gan yr awdurdod hawl i gofrestru’r swm sydd heb ei dalu fel dyled gyda’r Ganolfan Gorfodi Traffig yn Llys Sirol Northampton.
Anfon Gorchymyn Adennill

Anfonir Gorchymyn Adennill i Geidwad Cofrestredig y cerbyd gyda ffurflen ‘Datganiad Tyst’ neu – mewn achosion lôn bws – ffurflen ‘Datganiad Statudol’.

Ydych chi wedi derbyn Gorchymyn Adennill?
Peidiwch â’i anwybyddu!

Os na fyddwch yn delio gyda’r Gorchymyn, rhoddir y mater yn nwylo’r beili
(Asiant Gorfodi Sifil)
Ydych chi wedi derbyn Gorchymyn Adennill?
Peidiwch â’i anwybyddu!

Os na fyddwch yn delio gyda’r Gorchymyn, rhoddir y mater yn nwylo’r beili (Asiant Gorfodi Sifil)
Cwblhau Datganiad Tyst
neu Ddatganiad Statudol
Anfonir ffurflen Datganiad Tyst gyda phob Gorchymyn Adennill oni bai fod yr achos yn delio gyda lôn bws, pan anfonir ffurflen Datganiad Statudol.
Mae’n bosib defnyddio’r ffurflenni yma i egluro pan na ddylai’r ddyled fod wedi ei chofrestru a pham na ddylai’r mater wedi mynd mor bell.
Mae’n rhai bod un o’r seiliau/rhesymau canlynol yn bodoli
Cwblhau Datganiad Tyst neu Ddatganiad Statudol
Anfonir ffurflen Datganiad Tyst gyda phob Gorchymyn Adennill oni bai fod yr achos yn delio gyda lôn bws, pan anfonir ffurflen Datganiad Statudol.
Mae’n bosib defnyddio’r ffurflenni yma i egluro pan na ddylai’r ddyled fod wedi ei chofrestru a pham na ddylai’r mater wedi mynd mor bell.
Mae’n rhai bod un o’r seiliau/rhesymau canlynol yn bodoli

Ni dderbyniwyd Hysbysiad i’r Perchennog
– mewn achosion parcio yn unig – neu ni dderbyniwyd Hysbysiad Tâl Cosb.

Anfonwyd sylwadau i’r awdurdod perthnasol oddi fewn 28 diwrnod
ar ôl derbyn yr Hysbysiad i’r Perchennog/HTC,
ond ni dderbyniwyd llythyr Hysbysiad Gwrthod (HG) yn ymateb i’r sylwadau yma.

Rydych wedi apelio i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig oddi fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn llythyr Hysbysiad Gwrthod ac:
ni dderbyniwyd ymateb
NEU
Cyflwynwyd Tystysgrif Codi Tâl gan yr awdurdod cyn i’r Tribiwnlys wneud penderfyniad
NEU
Cyflwynwyd Tystysgrif Codi Tâl er bod y Tribiwnlys wedi caniatáu eich apêl.

Rydych eisoes wedi talu’r gosb yn llawn
(nid yw’r sail yma ar gael mewn achosion sydd angen Datganiad Statudol).

Ni dderbyniwyd Hysbysiad i’r Perchennog – mewn achosion parcio yn unig – neu ni dderbyniwyd Hysbysiad Tâl Cosb.

Anfonwyd sylwadau i’r awdurdod perthnasol oddi fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn yr Hysbysiad i’r Perchennog/HTC, ond ni dderbyniwyd llythyr Hysbysiad Gwrthod (HG) yn ymateb i’r sylwadau yma.

Rydych wedi apelio i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig oddi fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn llythyr Hysbysiad Gwrthod ac:
ni dderbyniwyd ymateb
NEU
Cyflwynwyd Tystysgrif Codi Tâl gan yr awdurdod cyn i’r Tribiwnlys wneud penderfyniad
NEU
Cyflwynwyd Tystysgrif Codi Tâl er bod y Tribiwnlys wedi caniatáu eich apêl

Rydych eisoes wedi talu’r gosb yn llawn
(nid yw’r sail yma ar gael mewn achosion sydd angen Datganiad Statudol).
Os yw un o’r rhesymau uchod yn bodoli
mae’n rhaid gwneud cais i’r Ganolfan Gorfodi Traffig oddi fewn 21 diwrnod*
*dilynwch y cyfarwyddiadau ar y ffurflen yr ydych wedi ei dderbyn
Os nad yw un o’r rhesymau uchod yn bodoli, dylid talu’r gosb mor fuan â phosib
Os yw un o’r rhesymau uchod yn bodoli mae’n rhaid gwneud cais i’r Ganolfan Gorfodi Traffig oddi fewn 21 diwrnod*
*dilynwch y cyfarwyddiadau ar y ffurflen yr ydych wedi ei dderbyn
Os nad yw un o’r rhesymau uchod yn bodoli, dylid talu’r gosb mor fuan â phosib
© 2022 Tribiwnlys Cosbau Traffig
© 2022 Tribiwnlys Cosbau Traffig