Codir tâl yn ddyddiol, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn ac o hanner nos tan hanner nos (er enghraifft, dylid talu 2 x tâl dyddiol am gerbyd sy’n mynd i mewn i Barth Aer Glân am 11pm ac yn gadael am 1am y bore canlynol.

Gallwch wirio a yw allyriadau eich cerbyd yn golygu bod yn rhaid i chi dalu tâl a gwneud taliad (cael trwydded) i'w ddefnyddio o fewn Parth Aer Glân ar-lein yn y GOV.UK Gwasanaeth Gyrru mewn Parth Aer Glân.

Mae gwasanaeth talu dros y ffôn a desg gymorth hefyd ar gael ar 0300 029 8888 (llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4.30pm), ynghyd ag a ffurflen gysylltu ar-lein.