O dan y gyfraith sy'n llywodraethu , y person sy'n atebol i dalu unrhyw a gyhoeddwyd mewn perthynas â cherbyd sy'n torri rheoliadau traffig yw ei berchennog. Tybir mai dyma'r y cerbyd, oni bai y profir yn wahanol.
Mae’n bosibl nad y Ceidwad Cofrestredig – yn ôl manylion a gofrestrwyd gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) – o reidrwydd oedd y gyrrwr ar adeg y tramgwydd honedig, ond mae’n gyfreithiol atebol am y tâl cosb. Nid yw'r ffaith bod person arall yn gyrru'r cerbyd yn effeithio ar atebolrwydd y Ceidwad Cofrestredig am unrhyw HTC.
Awdurdod lleol neu yn gwirio manylion y Ceidwad Cofrestredig am gerbyd yn y DVLA* fel rhan o’r broses cyn rhoi Rhybudd Talu Cosb (oni bai bod y Rhybudd Talu Cosb wedi’i osod ar ffenestr flaen y cerbyd neu’n cael ei roi i’r gyrrwr, yn achos .
Yna bydd yr holl ddogfennau sy'n ychwanegol at y Rhybudd Talu Cosb yn ystod y broses orfodi yn cael eu rhoi i Geidwad Cofrestredig y cerbyd.
*Mae’r gyfraith yn mynnu bod y DVLA yn cael gwybod am y Ceidwad Cofrestredig presennol. Os yw modurwr yn gwerthu cerbyd ac yn methu â chwblhau'r rhan berthnasol o ddogfen gofrestru'r cerbyd (V5CW / 'llyfr log'), efallai y bydd yn derbyn dogfennau gorfodi sy'n ymwneud â Rhybudd Talu Cosb a fwriedir ar gyfer y ceidwad blaenorol.